MairEVANSYn sydyn yn Ysbyty Glangwili ar ddydd Iau, 4ydd o Fehefin hunodd Mair, Plas y Milwr, Heol y Prior, Caerfyrddin, gynt o Glos Glyndwr, Yr Hendy. Priod ffyddlon y diweddar Caradog, mam gariadus Rhodri a Geraint, mam-gu arbennig Cai, Mabon, Catrin a Menna, mam-yng-nghyfraith hoffus Claire a Carolyn a chwaer annwyl Nancy, John, Alun ac Emyr. Angladd dydd Mawrth, 16eg o Fehefin 2020. Gwasanaeth preifat yn Amlosgfa Llanelli am 4.00yp. Bydd yr angladd yn mynd trwy Bontarddulais a'r Hendy am 3.40yp er mwyn rhoi cyfle i ffrindiau i dalu teyrnged. Rhoddion er cof, os dymunir, tuag at Ymchwil Canser Cymru trwy law Glanmor D Evans a'i Fab, Trefnwyr Angladdau, Capel Gorffwys Login, Heol Llangynnwr, Caerfyrddin SA31 2PG Ffôn: 01267 241626
Keep me informed of updates